Papur briffio:Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

 

Ymchwiliad i ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru,          Medi 2019

Ein rôl mewn perthynas â charchardai yng Nghymru

Y Sector Cyhoeddus

Y byrddau iechyd perthnasol sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yn y carchar mewn carchardai sector cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod y byrddau iechyd canlynol yn gyfrifol am yr holl wasanaethau gofal iechyd yn y carchardai canlynol:

 

Carchardai EM Brynbuga a Phrescoed, Sir Fynwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

CEM Caerdydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

CEM Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

CEM Berwyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae holl safonau perthnasol y GIG yng Nghymru yn berthnasol i wasanaethau gofal iechyd i garcharorion, yr unig eithriadau i hyn yw lle mae cyfyngiadau amgylchedd y carchar yn drech na'r safonau hynny. Rhaid i garchardai sector cyhoeddus fodloni rheoliadau cwynion y GIG; a rhoddir gwybod am ddigwyddiadau difrifol o ran diogelwch cleifion ym mhob carchar drwy system arferol y GIG.

 

Y Sector Preifat

Mae gofal iechyd yn CEM Parc, carchar preifat a gaiff ei weithredu gan G4S, yn fwy cymhleth. Y GIG sy'n gyfrifol am ddiwallu anghenion gofal iechyd eilaidd a thrydyddol pob carcharor, p'un a yw'n cael ei gadw yn ystad carchardai'r sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Felly, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy'n gyfrifol am anghenion gofal iechyd eilaidd a thrydyddol carcharorion yn CEM Parc ar hyn o bryd (ar gyfer 2019-20).

Caiff gwasanaethau gofal sylfaenol CEM Parc eu darparu drwy gontract â gwasanaethau meddygol G4S ac felly nid yw'r GIG yn gyfrifol am hyn. Mae Canolfan Gofal Iechyd CEM Parc yn darparu gofal sylfaenol 24 awr ac mae'n cynnwys uned benodedig ar gyfer carcharorion hŷn sydd ag anghenion gofal iechyd cynyddol a chymhleth. Mae'r uned hefyd yn cynnwys gwelyau gofal brys i'w defnyddio pan fydd eu hangen ar garcharorion, i ddiwallu anghenion gofal iechyd corfforol a meddyliol acíwt. Darperir gofal iechyd gan feddygon a nyrsys sydd wedi'u cyflogi a'u contractio gan G4S. Mae hefyd ystafell ddeintyddol yn y Ganolfan Gofal Iechyd ac mae deintydd ar y safle 5 diwrnod yr wythnos. Caiff gwasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol eu cefnogi gan wasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Nid yw rheoliadau a safonau cwynion y GIG yn berthnasol i ddarpariaeth gofal sylfaenol yn CEM Parc.

 

Ein cylch gorchwyl

Mae gan AGIC y sail gyfreithiol i arolygu'r rhan fwyaf o wasanaethau gofal iechyd carchardai. Mae cylch gwaith AGIC yn cynnwys mynd i mewn i unrhyw safle lle y darperir gofal gan neu ar ran cyrff GIG Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a'i arolygu. Felly, byddai gan AGIC y sail gyfreithiol i fynd i mewn i'r rhan fwyaf o safleoedd gofal iechyd mewn carchardai yng Nghymru a'u harolygu, ar wahân i arolygiadau ac adolygiadau o Garchardai AEM a'r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth (PPO).

Yr eithriad yw'r gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir i garcharorion a Phobl Ifanc yn CEM/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc. Nid oes angen i garchardai na sefydliadau carcharu gofrestru ag AGIC o dan reoliadau 3(3)c, 4(2)(i) a 5b o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011. Felly, ni fyddai gan AGIC gylch gwaith i arolygu gwasanaethau gofal sylfaenol yn CEM Parc oni bai bod y gwasanaeth yn dod yn un y mae angen ei gofrestru, neu bod y gwasanaeth a ddarperir yn cael ei ddarparu ar gyfer y GIG neu ar ei ran.

Yn Lloegr, mae'n rhaid i bob darparwr 'gweithgareddau a reoleiddir' mewn carchardai, Sefydliadau Troseddwyr Ifanc a Chanolfannau Remánd Mewnfudo, gofrestru â'r CQC. Er bod gan y CQC yr hawl gyfreithiol i arolygu darparwyr gofal iechyd cofrestredig, yn gyffredinol, maent yn mynd i mewn i leoliadau diogel o dan y pwerau a ddyfarnwyd i Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (HMIP) ac ymgymryd ag arolygiadau ar y cyd. Nid yw'r CQC yn ymgymryd â'i arolygiadau ei hun ar wahân. Ymddengys fod y dull hwn yn ddull priodol o ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad arolygwyr HMIP a sicrhau y gellir mynd i'r afael â materion ar y rhyngwyneb rhwng gofal iechyd mewn carchardai ac agweddau arall ar fywyd yn y carchar yn addas.

 

Trefniadau Llywodraethu ar gyfer Carchardai yng Nghymru

Mae Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd Mewn Carchardai yng Nghymru – sy'n amlinellu'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt rhwng Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Ei Mawrhydi (HMPPS), Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Cynllun Cyflawni Iechyd mewn Carchardai yn ategu'r Cytundeb Partneriaeth.

Dylai troseddwyr allu fanteisio ar yr un gwasanaethau iechyd â phawb arall yn yr ystad carchardai ac mewn lleoliadau cymunedol. Mae'r Cynllun Cyflawni Iechyd mewn Carchardai yn gynllun y bwriedir iddo sicrhau y darperir gofal iechyd cyfwerth. Mae'r Cynllun Cyflawni yn canolbwyntio ar bedwar maes â blaenoriaeth allweddol:

1.  Sicrhau bod amgylcheddau carchar yng Nghymru yn hybu iechyd a lles i bawb.

2.  Datblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant meddwl ac anableddau dysgu cyson ym mhob carchar sydd wedi'u teilwra yn ôl anghenion.

3.  Llunio llwybr clinigol safonol ar gyfer rheoli achosion o gamddefnyddio sylweddau mewn carchardai yng Nghymru.

4.  Datblygu safonau ar gyfer rheoli meddyginiaethau mewn carchardai yng Nghymru.

Rydym yn ymwybodol bob gwaith yn mynd rhagddo ym mhob un o'r meysydd hyn, a bod cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau yn cael ei fonitro ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a HMPPS. Disgwylir i bob bwrdd iechyd gynllunio a darparu gofal iechyd i sefydliadau carchar, gan gynnwys sicrhau bod y trefniadau llywodraethu gofynnol ar waith er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Nid ydym yn rhan o'r trefniadau monitro hyn am nad ydym yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau.

Y Byrddau Partneriaeth Iechyd mewn Carchardai (PHPBs), a gaiff eu cadeirio ar y cyd gan Brif Swyddogion Gweithredol y Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraethwyr y carchardai (neu eu dirprwyon enwebedig), sy'n gyfrifol am y gwaith o lywodraethu gwasanaethau iechyd mewn carchardai, a dylent gynnal cofrestr risgiau ar y cyd, sy'n cynnwys risgiau cyffredin a risgiau i'w priod sefydliadau, y mae disgwyl iddynt gydweithio i gytuno arnynt a'u rheoli. Eto, nid ydym yn rhan o'r trefniadau hyn. Fodd bynnag, rydym wrthi'n nodi, gyda Llywodraeth Cymru, sut y gallem atgyfnerthu ein dylanwad mewn perthynas â llywio gwelliannau ym maes gofal iechyd mewn carchardai.

 

Ein gweithgarwch mewn Carchardai yng Nghymru

Ar hyn o bryd, rydym yn cyflawni ein rôl mewn perthynas â charchardai yng Nghymru drwy wneud y canlynol:

1. Cyfrannu at ymchwiliadau i farwolaethau yn y ddalfa

Mae'n ofynnol i'r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ymchwilio i bob marwolaeth sy'n digwydd mewn carchar. Mae AGIC yn cyfrannu at yr ymchwiliadau hyn drwy gynnal adolygiad clinigol o bob marwolaeth mewn Carchar neu Safle Cymeradwy yng Nghymru. Caiff y trefniant hwn ei ddiffinio mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Ombwdsmon ac AGIC.

Mae'r adolygiadau hyn yn archwilio systemau, prosesau ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir i garcharorion yn ystod eu hamser mewn carchar neu Safle Cymeradwy, a hynny mewn ffordd feirniadol. Byddwn hefyd yn dilyn hynt materion sy'n peri pryder sy'n deillio o adolygiadau o farwolaeth unigol yn y ddalfa gyda'r byrddau iechyd perthnasol yn uniongyrchol.

2. Cyfrannu at arolygiadau o garchardai a gynhelir gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (HMIP)

Mae gan HMIP ddyletswydd statudol i arolygu gofal iechyd a chamddefnyddio sylweddau mewn lleoliadau carcharu yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae HMIP yn arwain arolygiadau o garchardai yng Nghymru gyda'r nod o arolygu pob carchar yng Nghymru o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Mae gan AGIC femorandwm cyd-ddealltwriaeth â HMIP a gall fynd gyda HMIP ar eu harolygiadau arferol o garchardai yng Nghymru. Rydym hefyd yn rhannu cudd-wybodaeth am unrhyw bryderon a dderbyniwn am garchardai yng Nghymru â HMIP.

Er nad yw'r trefniadau gweithio ar y cyd rhwng AGIC a HMIP yn cwmpasu'r ystad carchardai preifat ar hyn o bryd (oni bai bod darparwr gofal iechyd annibynnol sydd wedi cofrestru ag AGIC yn darparu'r gofal iechyd yn y carchar), caiff y gwasanaeth gofal iechyd a ddarperir gan G4S ei gynnwys yng nghwmpas yr arolygiad pan fydd HMIP yn arolygu CEM Parc, a chaiff yr adroddiad arolygu ei rannu ag AGIC.

Fel cyrff monitro ac arolygu annibynnol, mae gan AGIC a HMIP gyfrifoldebau fel aelodau o Ddull Atal Cenedlaethol y DU i atal pobl rhag cael eu trin yn wael yn y carchar. Mae'r Dull Atal Cenedlaethol yn ofynnol o dan y cytuniad hawliau dynol rhyngwladol a'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn yn erbyn Arteithio a Thriniaethau neu Gosbau Creulon, Annynol neu Ddiraddiol eraill (OPCAT).

 

Yr hyn rydym yn ei ganfod

Mae'r tabl canlynol yn dangos ein hymchwiliadau i farwolaethau yn y ddalfa ers 2014:

 

Lleoliad

Math o farwolaeth

2014/15

2015/16

2016/17

2017/18

2018/19

Cyfanswm

CEM Berwyn

Achosion naturiol

0

0

0

0

3

3

3

CEM Caerdydd

Achosion naturiol

0

0

5

1

4

10

15

Hunanladdiad

1

1

1

1

0

4

Dynladdiad

1

0

0

0

0

1

CEM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc

Achosion naturiol

3

5

5

2

7

22

29

Hunanladdiad

2

2

1

0

2

7

CEM Abertawe

Hunanladdiad

0

1

3

1

0

5

5

CEM Brynbuga a CEM/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Prescoed

Achosion naturiol

4

1

1

1

2

9

9

Cyfanswm

11

10

16

6

18

Cyfanswm

61

 

Themâu allweddol

Mae'r themâu allweddol lefel uchel sy'n deillio o'n hadolygiadau o farwolaethau yn y ddalfa fel a ganlyn:

·         Pryderon ynghylch ansawdd dogfennaeth gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys pryderon ynghylch safon cadw cofnodion, a'u diffyg manylder

·         Lefelau annigonol o gymorth gofal iechyd meddwl. Gwnaethom nodi sawl achos lle nad oedd carcharorion yn cael y lefelau priodol o ofal a chymorth iechyd meddwl, a gwnaethom nodi pryderon eto mewn perthynas ag ansawdd dogfennaeth ac asesiadau risg

·         Hyfforddiant. Nodwyd problemau mewn perthynas â hyfforddiant Dadebru Cardio Anadlol (CPR) yn benodol a phryd na ddylid ymgymryd â CPR

·         Cyfathrebu rhwng byrddau iechyd a lleoliadau carchar. Tynnwyd sylw at y cyfathrebu gwael rhwng y sefydliadau hyn yn ein hadroddiadau, yn benodol ynghylch colli apwyntiadau (naill ai mewn lleoliadau carchar, neu apwyntiadau yn yr ysbyty).

 

Trefniadau monitro ehangach

Mae gennym reolwyr cydberthnasau ar gyfer pob un o gyrff y GIG, ac fel rhan o'r rôl hon, mae'r rheolwyr yn arsylwi ar drefniadau llywodraethu y corff hwnnw. Mewn perthynas â gofal iechyd yn y carchar, mae ein harsylwadau neu bwyllgorau ansawdd a diogelwch wedi nodi darlun cymysg o ran deall digonolrwydd trefniadau llywodraethu byrddau iechyd. Er enghraifft, mewn perthynas â CEM Berwyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rydym wedi gweld tystiolaeth o ofal iechyd mewn carchardai yn cael ei gynnwys ar agenda ansawdd a diogelwch y bwrdd iechyd ac mae gwaith i fonitro perfformiad yn y carchar yn amlwg. Fodd bynnag, mae gennym lai o hyder mewn byrddau iechyd eraill a pha mor aml y mae gofal iechyd mewn carchardai yn cael ei gynnwys ar eu hagenda ansawdd a diogelwch a ph'un a oes trefniadau llywodraethu priodol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd i'w hunain o ran ansawdd gwasanaethau iechyd i ddynion yn yr ystad carchardai a'u gallu i gael gafael arnynt.

Rydym hefyd wedi bod yn rhan o'r Rhwydwaith Gwella Gofal Iechyd mewn Carchardai (PHIN). Penaethiaid Gofal Iechyd mewn Carchardai sy'n cadeirio'r rhwydwaith a'i ddiben yw gweithredu fel fforwm i rannu arfer da a dysgu o faterion sy'n peri pryder. Mae ein profiad o'r rhwydwaith yn awgrymu bod presenoldeb yn isel weithiau, ac nad yw cyfarfodydd yn cael eu trefnu'n aml, ac o ganlyniad felly, nad yw effeithiolrwydd y rhwydwaith cystal.

 

Gwaith pellach

Mae natur cadw pobl yn y ddalfa yn golygu bod y broses allan o olwg y cyhoedd ar y cyfan. Mae hyn yn rhoi'r carcharorion mewn sefyllfa fwy bregus am eu bod yn dibynnu ar awdurdodau i sicrhau eu diogelwch, eu gofal a'u llesiant. Mae hyn yn golygu bod monitro ac arolygu yn bwysicach fyth, gan sicrhau bod ansawdd y gofal y mae carcharorion yn ei gael ar lefel sy'n cyfateb i'r lefel a gaiff gweddill y boblogaeth.

Felly, gall fod achosion lle y byddai AGIC am gynnal arolygiad neu adolygiad o ofal iechyd mewn carchardai. Gallai hyn fod oherwydd bod cudd-wybodaeth yn awgrymu bod gofal iechyd mewn lleoliad penodol yn peri risg benodol; neu efallai'n fwy tebygol fel rhan o waith annibynnol AGIC, gellid cynnal adolygiad thematig o ofal iechyd carcharorion, gan fynd i'r afael â themâu sy'n deillio o'n hadolygiadau o farwolaethau yn y ddalfa er enghraifft. Byddai unrhyw benderfyniad i ymgymryd â gwaith pellach mewn perthynas â gofal iechyd mewn carchardai yn cael ei ystyried yn unol â sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hamrywiaeth eang o gyfrifoldebau ym mhob maes gofal iechyd yng Nghymru.

 

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Medi 2019